Mae ditectifs yn yr Alban yn ail-ymweld y prynhawn yma ag ysgol lle cafodd dyn ei saethu yr wythnos ddiwetha’, yn y gobaith y gallan nhw atgoffa pobol o’r hyn arweiniodd at yr ymosodiad.

Fe ddaeth y saethwr at y dyn 33 mlwydd oed yn Dornoch Place, Bishopbriggs, gan ei saethu unwaith, cyn rhedeg i ffwrdd. Fe ddigwyddodd hyn i gyd tua 3.10yp ddydd Iau diwetha’, Medi 24.

Roedd y dyn 33 oed yn yr ardal er mwyn danfon ei ferch o’r ysgol.

Heddiw, mae heddweision yn yr ardal yn siarad gyda thrigolion, rhieni a phobol sy’n gweithio’n lleol, fel rhan o’u hymchwiliad.

Maen nhw’n canolbwyntio hefyd ar gar Volkswagen Golf, rhif cofrestru FR12 PYB a gafodd ei ganfod yn ddiweddarach yn ardal Wood Lane, wedi’i losgi. Roedd y car wedi’i riportio wedi’i ddwyn ym mis Mawrth eleni.