Mae Partneriaeth John Lewis wedi cadarnhau na fydd aelodau o staff yn derbyn bonws eleni a hynny am y tro cyntaf ers 1953.
Daw’r penderfyniad ar ôl i’r cwmni orfod cau siopau ar ôl cwymp yn nifer eu cwsmeriaid yn sgil y coronafeirws.
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad i bartneriaid John Lewis ddydd Iau, dywedodd y Fonesig Sharon White, cadeirydd y grŵp, y bydd y cyhoeddiad yn “ergyd”.
Mae’r grŵp wedi gwneud colledion cyn treth o £635 miliwn yn y chwe mis hyd at Orffennaf 25. Does dim disgwyl iddyn nhw dalu bonws eto nes bod elw’r grŵp yn fwy na £150m meddai Sharon White.
Mae gwerthiant ar draws y grŵp wedi cynyddu 1.1% i £5.56 biliwn yn hanner cynta’r flwyddyn. Roedd hefyd wedi elwa o gynlluniau sybsidi y Llywodraeth, meddai.
Roedd gwerthiant y grŵp wedi gostwng 10% yn y cyfnod ond roedd cynnydd ar-lein wedi helpu rhywfaint i leihau’r colledion yn sgil cau siopau. Roedd gwerthiant ar-lein yn “gryf” gyda thwf o 73% yn y cyfnod, meddai Sharon White.
Yn y cyfamser, mae Waitrose, sy’n rhan o’r grŵp, wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant o bron i 10% yn y cyfnod wrth i siopwyr barhau i fynd i’r archfarchnadoedd. Mae siopa ar-lein hefyd wedi parhau’n gadarn gyda’r cwmni yn dosbarth 170,000 o archebion yr wythnos, cynydd o tua 60,000 ers cyn y pandemig.
Daw’r cyhoeddiad am y bonws ddiwrnod ar ôl i’r grŵp ddatgelu cynlluniau i gau pedwar o’i archfarchnadoedd Waitrose, gan gynnwys Caldicot a Sir Fynwy. Bydd 124 o bobl yn colli eu swyddi o ganlyniad.
Ym mis Gorffennaf, fe gyhoeddodd y grŵp y bydd wyth o siopau John Lewis yn cau, gan roi 1,300 o swyddi yn y fantol.