Fe ddylai mwy o rym gael ei roi yn nwylo cynghorau Cymru, yn ôl adroddiad newydd gan yr OECD (Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd).
Bu’r sefydliad yn cynnal eu gwaith am 18 mis, cafodd y gwaith ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ac mae disgwyl i’r canfyddiadau helpu gweinidogion wrth ddylunio cynlluniau ôl-Brexit.
“Gyda dros 70% o arian cynghorau yn dod o [lywodraethau] (transfers), does dim llawer o gymhelliant ar [gynghorwyr] i fwrw ati â datblygiad economaidd,” meddai’r adroddiad.
“Mae cynyddu’r ganran sydd yn cael ei godi gan gynghorau yn arwain at sefyllfa lle mae cynghorau yn fwy atebol i’w preswylwyr.
“A byddai’n helpu sicrhau bod penderfyniadau i ehangu rhaglenni cyhoeddus yn cael eu gwneud [gyda chynghorwyr] yn talu sylw i’r costau ychwanegol.”
Helpu siapio cynlluniau
“Ein nod cyffredinol [wrth roi pwerau i ranbarthau] … yw i benderfyniadau gael eu gwneud ar y pwynt sydd yn fwyaf gwerthfawr i bobl Cymru,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.
“Caiff y dull hwn ei greu drwy bartneriaeth gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat, cymunedol a’r trydydd sector ac rwy’n falch iawn bod OECD wedi cefnogi’r gwaith hwn.”
Galw am ddatganoli “cytbwys”
Mae’r ddogfen yn nodi bod “datganoli go iawn yn y Deyrnas Unedig islaw’r lefel cenedlaethol yn parhau’n isel” o gymharu â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Ac mae’n ategu bod yna gysylltiad cryf rhwng twf GDP (cynnyrch domestig gros) a datganoli pwerau gwario a phwerau codi refeniw.
“Rhaid gofalu bod datganoli yn digwydd mewn ffordd gytbwys – datganoli pwerau dros wario a chodi refeniw ochr yn ochr,” meddai’r adroddiad.
“Fel arall mae yna beryg o waethygu anghydraddoldeb daearyddol, gan gynnwys anghydraddoldeb o ran … y gwasanaethau mae awdurdodau [lleol] yn medru eu darparu,” meddai wedyn.