Old Bailey
Mae dynes yn wynebu dedfryd o garchar ar ôl iddi drywanu pedoffeil i farwolaeth ar ôl iddi fynd i’w dy yn nwyrain Llundain i’w holi ynglŷn â honiadau newydd o gam-drin plant.

Fe benderfynodd Sarah Sands, 32, wynebu ei chymydog, Michael Pleasted, 77, ar ôl iddi glywed ei fod wedi ymosod ar dri bachgen ifanc.

Yn yr Old Bailey, cafwyd Sands yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad ar y sail ei bod wedi colli rheolaeth.

Fe fydd y fam yn cael ei dedfrydu yn ddiweddarach gan y Barnwr Nicholas Cooke QC.

Yn ystod yr achos, clywodd y llys bod Pleasted, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Robin Moult, wedi cael dedfryd o garchar am droseddau rhyw yn erbyn bechgyn rhwng 1970 a 1991.

Pan gafodd ei drywanu roedd Pleasted ar fechnïaeth ac yn aros i’w achos gael ei glywed yn Llys y Goron Snaresbrook ar ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ddau blentyn o dan 13 oed.

Roedd yr heddlu hefyd yn ymchwilio i honiad arall ei fod wedi cam-drin bachgen arall.