Mae bachgen ysgol wedi ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad car yn Abertawe brynhawn ddoe.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Birchgrove, Abertawe brynhawn dydd Llun wedi i fachgen 10 oed gael ei daro gan Land Rover Freelander gwyn.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Cafodd y bachgen 10 mlwydd oed anafiadau difrifol, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Treforys.”
“Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger mynedfa Clwb Rygbi’r Glais, ac rydym yn galw am unrhyw dystion neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â ni.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy ffonio 01656 655555 neu drwy ddefnyddio’r rhif 101.