Nasser Muthana o Gaerdydd ar y dde
Mae Llywodraeth San Steffan wedi gosod sancsiynau rhyngwladol ar bedwar jihadydd o Brydain, mewn ymgais i’w rhwystro rhag teithio i Syria gan ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Yn eu plith, mae Nasser Muthana, 21, o Gaerdydd, Aqsa Mahmood, 21 oed o Glasgow, Abu-Said al-Britani, 28, o High Wycombe yn Buckinghamshire, a Sally-Anne Jones, 46 oed o Greenwich Llundain.

Honnir eu bod wedi arwain ymgyrchoedd recriwtio i ddylanwadu ar eraill i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd, ynghyd â chynllwynio ymosodiadau brawychol ar y DU.

Maen nhw bellach wedi’u gosod ar restr sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig, ac mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi manylion amdanynt. Dyma’r tro cyntaf i’r DU gyhoeddi enwau’r troseddwyr gwaethaf o’r tua 700 o bobol yr honnir iddynt deithio i’r rhanbarth i ymuno ag eithafwyr Islamaidd.

Y pedwar jihadydd

Myfyriwr meddygol a gafodd ei eni yng Nghaerdydd yw Nasser Muthana, 21 oed, ac fe deithiodd i Syria yn 2013. Fe ymddangosodd mewn fideos propaganda’r Wladwriaeth Islamaidd gan gynnwys y fideo recriwtio o’r enw There Is No Life Without Jihad. Roedd y fideo yn galw ar Fwslimiaid y Gorllewin i ymuno â’r frwydr yn Syria ac Irac.

Mae Nasser Muthana hefyd wedi bygwth y DU drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n debyg fod tad Nasser Muthana wedi’i wadu llynedd gan ddweud ei fod yn “haeddu marw” os oedd wedi bod yn rhan o ddienyddio fel rhan o garfan lladd y Wladwriaeth Islamaidd.

Fe deithiodd Aqsa Mahmood, 21 oed o Glasgow i Syria ym mis Tachwedd 2013 i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd. Mae’n debyg ei bod hi’n ffigwr allweddol yng nghynllun al-Khanssaa a sefydlwyd gan y Wladwriaeth Islamaidd yn Raqqa i weithredu cyfraith Sharia.

Mae’n debyg hefyd fod y fyfyrwraig wedi annog ymosodiadau brawychol drwy gyfrif Twitter gan ddefnyddio’r enw Umm Layth.

Mae Abu-Said al-Britani hefyd yn cael ei adnabod fel Omar Hussain, ac fe deithiodd i Syria i ymladd gydag eithafwyr Islamaidd yn gynnar y flwyddyn ddiwethaf. Arferai weithio fel swyddog diogelwch yn archfarchnad Morrison’s.

Mae wedi bod yn weithredol ar gyfryngau cymdeithasol yn annog merched a phlant i deithio i Syria er mwyn recriwtio’r “genhedlaeth nesaf”. Ym mis Awst y llynedd, fe ddywedodd yn gyhoeddus wrth y cyfryngau Prydeinig ei fod yn ymladd gydag eithafwyr Islamaidd ac y byddai ond yn dychwelyd “i blannu bom”.

Fe deithiodd Sally-Anne Jones i Syria yn 2013 i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd gyda’i gŵr Junaid Hussain. Mae hithau wedi bod yn weithredol ar wefannau cymdeithasol ac yn annog merched i deithio i Syria gan gynnig cyngor ymarferol iddynt ar sut i gyrraedd y wlad.

Cafodd ei gŵr ei ladd mewn ymosodiad gan awyren ddibeilot yr UDA ar Awst 24, ac mae’n debyg ei fod yn cynllwynio “ymosodiadau barbaraidd yn erbyn y Gorllewin”.

Mae enw un arall o’r DU yn cael yn aros i gael ei gymeradwyo gan y pwyllgor sancsiynau, ac mae disgwyl i fwy o enwau gael eu cyflwyno.

Dyma’r tro cyntaf ers 2006 y mae’r DU wedi cyflwyno ei dinasyddion ei hun o dan gynllun sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig mewn ymgais i ddelio â therfysgwyr al Qaida ag eithafwyr Islamaidd.