Jeremy Corbyn
Fe fydd Jeremy Corbyn  yn rhoi ei araith fawr gyntaf i gynhadledd y Blaid Lafur heddiw ers iddo ddod yn arweinydd.

Mae disgwyl i’w araith alw am “gymdeithas fwy gofalgar”, a bydd yn mynnu ei fod yn “caru” ei wlad.

Yn ddiweddar, cafodd ei feirniadu am beidio â chanu anthem God Save The Queen mewn gwasanaeth i nodi Brwydr Prydain yn yr Ail Ryfel Byd.

Ond mae ei lefarwyr wedi wfftio awgrymiadau mai bwriad ei sylwadau yw ymateb i’r feirniadaeth nad yw’n wladgarwr.  Maen nhw’n mynnu mai ei fwriad yw ceisio esbonio sut fath o arweinydd fydd e.

‘Mandad ar gyfer newid’

Bythefnos yn unig ers iddo gael ei ethol yn arweinydd ar ôl ennill bron i 60% o’r pleidleisiau gan aelodau a chefnogwyr Llafur, fe fydd Jeremy Corbyn yn dweud bod ei fuddugoliaeth yn rhoi “mandad ar gyfer newid.”

Yn wahanol i nifer o’i ragflaenwyr, fe fydd Jeremy Corbyn yn dweud nad yw am orfodi polisïau ar ei blaid, ond yn hytrach ei fod am wrando ar farn aelodau’r blaid a cheisio dod i benderfyniad sy’n bodloni pawb.

Mae llefarwyr ei blaid wedi gwrthod dweud a fydd Corbyn yn fodlon derbyn penderfyniadau’r mwyafrif  os yw’n gwrthdaro a rhai o’i ddaliadau cryf ei hun ar faterion fel sgrapio system niwclear Trident.

Yn gynharach yr wythnos hon roedd y gynhadledd yn Brighton wedi gwrthod cynlluniau i gynnal dadl ar ddyfodol Trident.