Llys y Goron Abertawe
Mae dyn 86 oed o Abertawe wedi osgoi “dedfryd hir o garchar” am dreisio plentyn am ei fod yn dioddef o ddementia, meddai barnwr heddiw.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Derek Desmond Butt o Dreforys wedi ymosod yn rhywiol ar y bachgen ifanc mwy na 200 o weithiau dros gyfnod o saith mlynedd.
Ond gan fod y pensiynwr yn dioddef o ddementia, fe benderfynwyd nad oedd yn ddigon iach i sefyll ei brawf.
Yn hytrach cafodd y ffeithiau eu cyflwyno gerbron rheithgor a chafwyd Butt yn euog o 21 o’r honiadau yn ei erbyn.
Cafodd Butt ei roi ar y gofrestr troseddau rhyw a gorchymyn goruchwylio am ddwy flynedd.
Clywodd y llys fod Butt wedi dechrau ymosod ar y bachgen ifanc yn 2006 a bod hynny wedi parhau hyd at 2013.
Byddai’r pensiynwyr yn dod i nôl y bachgen o’i gartref gan gymryd arno ei fod yn mynd ag ef i’r parc neu lan y môr.
Ond fe fyddai Butt yn mynd a’r plentyn yn ôl i’w gartref lle byddai’n ymosod arno’n rhywiol cyn mynd ag ef am hufen ia.
Dywedodd mam y bachgen, na ellir cyhoeddi ei henw am resymau cyfreithiol, nad oedd syniad ganddi fod ei mab yn cael ei gam-drin gan ddyn yr oedd hi’n “ymddiried yn llwyr ynddo.”
Mae Butt bellach yn byw mewn cartref gofal.
Roedd wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.