John McDonnell
Bydd Llafur yn lansio ymgyrch “ffyrnig” i sicrhau bod cwmnïau mawr rhyngwladol fel Starbucks, Vodafone, Amazon a Google yn “talu eu cyfran deg o drethi” fel rhan o gynllun i fantoli cyfrifon y wlad yn ‘decach’.

Dyna ddywedodd John McDonnell wrth annerch cynhadledd y Blaid Lafur wrth iddo gyhoeddi y byddai’r blaid yn cyflwyno cyfres o godiadau trethi i’r cyfoethog, gan ddweud y byddai llywodraeth Lafur yn codi arian mewn modd “tecach” na fydd yn rhoi’r baich ar bobl sy’n ennill cyflogau isel.

Yn ei araith fawr gyntaf fel Canghellor yr wrthblaid, fe gyhuddodd John McDonnell y Ceidwadwyr o fynd i’r afael a diffyg Prydain ar draul pobl dlawd, tra’n diogelu’r bobl gyfoethog rhag effaith yr argyfwng economaidd.

‘Llymder yn ddewis gwleidyddol’

Dywedodd y byddai Llafur yn mynd i’r afael â’r ddyled drwy dargedu corfforaethau sy’n osgoi talu trethi a thrwy annog twf economaidd.

“Dyw llymder ariannol ddim yn angenrheidiol, mae’n ddewis gwleidyddol,” meddai.

Cyhoeddodd John McDonnell y byddai strategaeth Llafur yn seiliedig ar hybu’r economi drwy fuddsoddi’n strategol mewn diwydiannau a sectorau allweddol.

Ond mae ei gynlluniau wedi cael croeso gofalus gan arweinwyr busnes sy’n dweud y gallai ei bolisïau arwain at chwyddiant a chyfraddau llog uwch.

Mae Vodafone hefyd wedi dweud “nad oes gwirionedd” yn honiad John McDonnell eu bod wedi osgoi talu trethi, gan fynnu eu bod “wastad wedi talu ein trethi” gan gyfeirio at fil o £360 miliwn mewn trethi yn y DU ar gyfer 2014/15.

‘Ddim yn cynnig gweledigaeth newydd’ – Plaid Cymru

Wrth ymateb i araith John McDonnell, dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi:  “Cadarnhaodd Llafur heddiw na fyddai’n cynnig gweledigaeth bositif a newydd ar gyfer yr economi i bobl Cymru heddiw.

“Yn hytrach na mynd yn ôl ar rai o’i phenderfyniadau economaidd mwyaf niweidiol, fel cefnogi agenda llymder y Ceidwadwyr, mae Canghellor newydd yr wrthblaid wedi dewis tincro o gwmpas yr ymylon heb fynd i’r afael â methiannau mwyaf ei blaid.”