James Hook
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod James Hook a Gareth Anscombe wedi cael eu galw i garfan Cymru yn dilyn anafiadau i Scott Williams a Hallam Amos.
Cafodd y ddau eu cludo o’r maes yn y fuddugoliaeth o 28-25 dros Loegr ddydd Sadwrn, gyda Williams wedi anafu’i ben-glin ac Amos wedi datgymalu’i ysgwydd.
Mae’r ddau ohonyn nhw nawr yn methu gweddill Cwpan y Byd, gan ychwanegu at restr hir o anafiadau gan Gymru sydd eisoes yn cynnwys Leigh Halfpenny, Rhys Webb, Jonathan Davies, Eli Walker a Cory Allen.
Liam Williams allan
Dyw trafferthion anafiadau Cymru ddim ar ben eto, fodd bynnag, gyda Liam Williams hefyd yn debyg o fethu’r gêm yn erbyn Fiji dydd Iau.
Cafodd y cefnwr glec i’w ben yn ystod y gêm yn erbyn Lloegr, ac yn ôl tîm meddygol Cymru fydd e ddim yn cael ei ystyried ar gyfer y gêm nesaf oherwydd effaith y cyfergyd.
Bydd Cymru’n herio Awstralia yn eu gêm grŵp olaf ar 10 Hydref, naw diwrnod ar ôl herio Fiji, gan wybod y byddai buddugoliaethau yn y ddwy gêm hynny’n sicrhau lle yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd.
Amryddawn
Roedd Hook ac Anscombe yn y garfan estynedig gafodd ei enwi gan hyfforddwr Warren Gatland, cyn cael eu gadael allan wedi i’r grŵp gael ei chwtogi i 31.
Mae Anscombe wedi bod yn dioddef o anaf i’w bigwrn, tra bod Hook wedi canfod ei hun ar ymylon y garfan sawl gwaith yn y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae’r ddau yn chwaraewyr amryddawn gyda’r gallu i chwarae fel maswr neu gefnwr, a Hook yn brofiadol hefyd fel canolwr.