Warren Gatland
Mae tîm rygbi Cymru wedi dringo i’r ail safle yn Netholion Rygbi’r Byd yn dilyn y fuddugoliaeth ddramatig nos Sadwrn yn erbyn Lloegr.

Mae’r rhestr ddiweddara a gyhoeddwyd gan Rygbi’r Byd yn dangos mai Seland Newydd sydd ar y brig, gyda Chymru yn yr ail safle.

Mae’r rhestr hefyd yn dangos fod Lloegr wedi syrthio tri safle – o’r trydydd i’r chweched safle.

Mae’n debyg hefyd y gallai Lloegr ddisgyn allan o’r gystadleuaeth pe byddai Cymru yn curo Fiji yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Iau – a phe byddai Awstralia yn  curo Lloegr yn Twickenham ddeuddydd yn ddiweddarach.

Mae’r Alban hefyd wedi symud o’r 12fed safle i’r 9fed yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Siapan a’r Unol Daleithiau.

Dyma sut y mae Detholion Rygbi’r Byd yn edrych ar hyn o bryd:

1 Seland Newydd 92.89

2 Cymru 87.31

3 Awstralia 86.75

4 Iwerddon 84.40

5 De Affrica 82.66

6 Lloegr 82.35

7 Ffrainc 81.12

8 Yr Ariannin 79.66

9 Yr Alban 79.05

10 Fiji 76.96.