Wayne Hennessey nôl yn y gôl i Palace (llun: Nick Potts/PA)
Er i’r ddau ohonyn nhw ddechrau i Crystal Palace yng Nghwpan Capital One ganol yr wythnos, dim llawer o gefnogwyr Cymru oedd wedi disgwyl y byddai Wayne Hennessey a Joe Ledley yn cadw’u lle ar gyfer gêm gynghrair y tîm dydd Sul.

Ond am y tro cyntaf y tymor hwn fe ddewisodd Alan Pardew y ddau Gymro yn ei 11 ar gyfer yr Uwch Gynghrair, gyda Palace yn teithio i Watford a llwyddo i ddychwelyd â thri phwynt.

Cic gosb Yohan Cabaye seliodd y pwyntiau, gyda Hennessey ddim yn cael llawer i’w wneud a Ledley’n cael ei ganmol gan ei reolwr am ei berfformiad yng nghanol cae.

Cafodd Ben Davies brynhawn Sadwrn i’w gofio gan chwarae 90 munud wrth i Spurs sicrhau eu buddugoliaeth orau o’r tymor, gan chwalu Man City o 4-1.

Sicrhaodd Aaron Ramsey ac Arsenal fuddugoliaeth o 5-2 oddi cartref yn erbyn Caerlŷr, gydag ymddangosiad Andy King oddi ar y fainc ar yr egwyl yn methu â gwneud dim i achub y gêm i’w dîm.

Colli oedd hanes Abertawe, sydd nawr heb ennill ers pedair gêm, lawr yn Southampton o 3-1 gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn chwarae gemau llawn unwaith eto.

Daeth Joe Allen oddi ar y fainc yn y munud olaf wrth i Lerpwl drechu Aston Villa 3-2, ar ôl dechrau am y tro cyntaf tymor yma yn y gêm gwpan ganol wythnos, ond aros ar y fainc wnaeth James Collins wrth i West Ham gael gêm gyfartal 2-2 â Norwich.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth fe chwaraeodd Sam Vokes, Chris Gunter a Hal Robson-Kanu 90 munud yr un wrth i Burnley golli 2-1 gartref i Reading, gyda Gunter a Robson-Kanu’n creu gôl yr un i’r ymwelwyr.

Er i Simon Church greu’r gôl i unioni’r sgôr rhwng MK Dons a Derby, colli o 3-1 oedd hanes ei dîm yn y diwedd.

Roedd Andrew Crofts ar y fainc i Brighton am y tro cyntaf y tymor hwn ers gwella o anaf difrifol arall i’w ben-glin.

Nos Iau fe sgoriodd Emyr Huws unwaith eto wrth i’w dîm Huddersfield ef a Joel Lynch gipio gêm gyfartal yn erbyn David Vaughan a Nottingham Forest.

Yng ngemau eraill y gynghrair dros y penwythnos fe chwaraeodd David Cotterill, Morgan Fox, Adam Henley, Tom Lawrence a Wes Burns, ond roedd Jazz Richards a Dave Edwards ymysg y rheiny fethodd gemau oherwydd anafiadau.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban Owain Fôn Williams enillodd y frwydr rhwng y Cymry yn y gôl wrth i Inverness drechu Aberdeen, oedd â Danny Ward ac Ash Taylor yn y tîm.

Yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw ei wythfed gôl o’r tymor wrth i Walsall gael gêm gyfartal yn erbyn Crewe, ac fe rwydodd Steve Morison hefyd i Millwall.

Yn olaf, newyddion da i gefnogwyr Cymru wrth i Gareth Bale ddychwelyd i ymarfer llawn â Real Madrid ar ôl anafu croth ei goes, a’r gobaith felly yw y bydd yn ffit i wynebu Bosnia ac Andorra ymhen pythefnos.

Seren yr wythnos – Joe Ledley. Perfformiad da yng nghanol cae er mwyn dangos i’w reolwr ei fod yn haeddu lle.

Siom yr wythnos – Ashley Williams. Dim perfformiad cystal ganddo’r wythnos yma wrth i’r Elyrch barhau â’u rhediad siomedig.