David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cwrdd ag Arlywydd  Iran, Hasan Rouhani, mewn ymdrech arall i adfer y broses heddwch yn Syria.

Mae disgwyl i’r ddau arweinydd gwrdd yn Efrog Newydd ynghyd ag arweinwyr byd eraill sy’n mynychu uwch gynhadledd y Cenhedloedd Unedig.

Mae’n ymddangos bod ymdrechion i gynnwys Tehran yn y trafodaethau i geisio dod a’r rhyfel cartref yn y wlad i ben, wedi ennill tir.

Mae Tehran wedi bod yn gefnogol i lywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad yn Syria.