Wrth i’r blaid Lafur baratoi am dadl ar ddyfodol llongau tanfor niwclear Trident yn ei chynadledd flynyddol, mae’r arweinydd Jeremy Corbyn wedi cadarnhau y bydd yn galw am eu diddymu.

Mae’n cydnabod y bydd gwahaniaeth barn ymhlith Aelodau Seneddol Llafur ond dywed mai ei fwriad fydd ceisio’u perswadio i gefnogi ei safbwynt.

“Dw i’n deall safbwyntiau rhai o’m cyd-aelodau,” meddai.

“Ond dw i’n gobeithio eu perswadio nhw y byddai byd di-niwclear yn beth da.

“Mae yna lawer o bobl, gan gynnwys arbenigwyr milwrol, sy’n bryderus ac yn wir yn gwrthwynebu Trident oherwydd nad ydyn nhw’n ei weld fel rhan o amddifyn neu ddiogelu modern. Dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw sefyllfa lle byddai defnyddio Trident yn opsiwn.”

Dealltwriaeth

Dywed hefyd na fyddai’n ‘drychineb’ petai dwy farn wahanol o fewn y blaid, a’i fod yn ffyddiog y byddai’r aelodau yn dod i ryw fath o ddealltwriaeth.

Ychwanegodd, fodd bynnag:

“Fe wnaf i fy ngorau glas i’w cael nhw i gytuno â’m safbwynt i.”

Yn y bleidlais ar Trident, sy’n debygol o ddigwydd ddydd Mercher, mae disgwyl y bydd y cynnig yn cynnwys cyfres o ddewisiadau yn hytrach na phleidlais syml o blaid neu yn erbyn.