David Cameron
Mae’r Prif Weinidog yn wynebu her gyfreithiol am ei benderfyniad i ganiatáu ymosodiad ar frawychwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria, er bod y Senedd wedi pleidleisio yn erbyn cynnal ymosodiadau o’r awyr.
Fe wnaeth David Cameron ddatgelu ar ddechrau’r mis bod awyren ddi-beilot y Llu Awyr wedi lladd dau ddinesydd o Brydain, gan ddisgrifio’r cam fel “gweithred o hunanamddiffyniad”.
Cafodd Reyaad Khan, o Gaerdydd a Ruhul Amin o Aberdeen eu lladd gan awyren ddi-beilot ar 21 Awst yn ninas Raqqa yn Syria.
Mae Aelod Seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas, a’r Farwnes Jones yn cydweithio â’r elusen hawliau dynol, Reprieve i gymryd y cam cyntaf tuag at adolygiad barnwrol.
Beirniadu “diffyg eglurder” y llywodraeth
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Amddiffyn a’r Twrnai Cyffredinol, mae cyfreithwyr ar ran y gwleidyddion yn dadlau bod y Llywodraeth naill ai wedi methu â llunio “polisi lladd wedi’i dargedu” neu ei bod wedi methu â’i chyhoeddi.
Yn ôl y llythyr, mae’r ddau bosibilrwydd yn anghyfreithlon o dan gyfraith Prydain a chyfraith ryngwladol.
Mae’r llythyr yn dweud bod y Llywodraeth wedi cyfiawnhau ei hymosodiad ar y brawychwyr gan ddweud bod bygythiadau “posibl”, “uniongyrchol”, “tebygol” ac “ar fin digwydd” i’r DU.
Ond mae’r llythyr yn beirniadu “diffyg eglurder” y llywodraeth ar hyn.
Mae Prydain wedi bod yn cynnal ymosodiadau ar IS o’r awyr yn Irac, ond nid yn Syria ar ôl i Dŷ’r Cyffredin wrthod cymeradwyo hyn.
Roedd David Cameron wedi dweud wrth Aelodau Seneddol bod Reyaad Khan wedi bod yn cynllwyno ymosodiadau “barbaraidd” ar y DU ac nad oedd ffordd arall o’i stopio.