Liam Williams
Mae Warren Gatland wedi cynnwys Liam Williams yn ei dîm i wynebu Lloegr dydd Sadwrn wedi iddo wella o anaf a gafodd yng ngêm agoriadol Cwpan y Byd.
Fe benderfynodd hyfforddwr Cymru orffwys llawer o’i brif chwaraewyr ar gyfer y fuddugoliaeth agoriadol dros Wrwrgwai o 54-9.
Ond maen nhw i gyd yn dychwelyd ar gyfer yr ornest fawr yn erbyn Lloegr y penwythnos yma, gan olygu ymddangosiad cyntaf yn y twrnament eleni i George North, Dan Biggar, Jamie Roberts ac Alun Wyn Jones ymysg eraill.
Mae Hallam Amos hefyd wedi cael ei ddewis ar yr asgell yn lle Alex Cuthbert, a berfformiodd yn siomedig yn y gêm gyntaf.
Dim lle i Tipuric
Mae’r blaenwyr Samson Lee ac Aaron Jarvis yn ddigon ffit i gael eu cynnwys ar y fainc, ond dyw Paul James ddim wedi gwella’n ddigon cyflym o anaf i’w droed.
Does dim lle fodd bynnag i Justin Tipuric ymysg y pymtheg fydd yn dechrau’r gêm, gyda Dan Lydiate yn dychwelyd i’r rheng ôl.
“Mae dydd Sadwrn yn achlysur enfawr i’r ddau dîm ac i’r gystadleuaeth ac rydyn ni wir yn edrych ymlaen,” meddai Warren Gatland wrth gyhoeddi’r tîm.
“Fe ddechreuodd y ddau dîm eu twrnament â buddugoliaeth pwynt bonws ond rydyn ni’n gwybod y bydd rhaid camu lan yn Twickenham dydd Sadwrn.”
Lloegr wedi enwi
Yn gynharach y bore yma fe enwodd Lloegr eu tîm ar gyfer y gêm yn Nhwickenham, gyda phartneriaeth newydd o Sam Burgess a Brad Barritt yn y canol yn absenoldeb Jonathan Joseph.
Mae Stuart Lancaster hefyd wedi newid ei faswr, gydag Owen Farrell yn cymryd lle George Ford, tra bod Billy Vunipola yn cymryd lle’r wythwr Ben Morgan sydd wedi’i anafu.
Mae’r newid yng nghanol cae yn awgrymu fod Lloegr am geisio chwarae gêm bwerus i geisio herio Cymru o’r cychwyn.
Tîm Cymru: Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Tomas Francis, Alun Wyn Jones, Bradley Davies, Dan Lydiate, Sam Warburton, Taulupe Faletau; Gareth Davies, Dan Biggar, Hallam Amos, Scott Williams, Jamie Roberts, George North, Liam Williams
Eilyddion Cymru: Aaron Jarvis, Ken Owens, Samson Lee, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert
Tîm Lloegr: Joe Marler, Tom Youngs, Dan Cole; Geoff Parling, Courtney Lawes; Tom Wood, Chris Robshaw (capt), Billy Vunipola; Ben Youngs, Owen Farrell, Jonny May, Sam Burgess, Brad Barritt, Anthony Watson, Mike Brown
Eilyddion Lloegr: Rob Webber, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Joe Launchbury, James Haskell, Richard Wigglesworth, George Ford, Andy Goode.