Ffoaduriaid yn cyrraedd ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg ar ol teithio o Dwrci
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi ymrwymo i roi £100 miliwn ychwanegol i gefnogi ffoaduriaid ar gyrion Syria.
Daeth y cyhoeddiad ar drothwy uwchgynhadledd frys ym Mrwsel i drafod y sefyllfa.
Cadarnhaodd David Cameron y byddai £40 miliwn o’r cyfanswm yn cael ei roi i gefnogi Rhaglen Fwyd y Byd.
Dywedodd: “Rhaid i ni sicrhau bod pobol yn y gwersylloedd i ffoaduriaid yn cael eu bwydo’n iawn a’u bod yn derbyn gofal, nid lleiaf i’w helpu ond hefyd i atal pobol sydd am fentro, neu sy’n meddwl am fentro ar y daith anodd a pheryglus hon i Ewrop.”
Mae arweinwyr eisoes wedi cytuno i adleoli 120,000 o ffoaduriaid sydd ar hyn o bryd yn yr Eidal, Gwlad Groeg a Hwngari.
Mae Slofacia, Rwmania, Hwngari a Gweriniaeth Tsiec wedi gwrthwynebu’r cynlluniau, tra bod Y Ffindir wedi ymatal o’r bleidlais.
Doedd Prydain ddim wedi cymryd rhan yn y bleidlais, yn ôl eu hawl.