Mae Prif Weithredwr Volkswagen, Martin Winterkorn, wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’i swydd “er budd y cwmni”, yn dilyn y sgandal am dwyllo profion allyriadau disel.

Ond dywedodd nad oedd yn ymwybodol ei fod “wedi gwneud unrhyw beth o’i le.”

Nid yw ei olynydd wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.

Yn y cyfamser mae cyfreithwyr wedi rhybuddio y gallai’r achos cyfreithiol yn erbyn y cwmni ceir gan gwsmeriaid anfodlon fod ymhlith yr achosion mwyaf erioed.

Mae’r cwmni o’r Almaen wedi’i gyhuddo o gamarwain cwsmeriaid ynghylch allyriadau disel.

Gwnaeth yr Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yn yr Unol Daleithiau ddarganfod fod ceir Volkswagen yn cynnwys meddalwedd cymhleth sy’n rhoi canlyniadau twyllodrus wrth gynnal profion allyriadau.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd y meddalwedd newydd yn cael effaith ar geir y cwmni yng ngwledydd Prydain, ond mae’n bosib y bydd yn effeithio ar hyd at 11 miliwn o geir ar draws y byd.

Mae cwmni cyfreithwyr Slater and Gordon yn dweud y gallai’r achos yn erbyn y cwmni fod yn anferth pe baen nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Os yw sgandal Volkswagen yn berthnasol i geir yn y DU yna mae potensial yma iddo fod yn un o’r achosion cyfreithiol mwyaf y mae’r wlad hon wedi’i weld.”

Ychwanegodd y gallai effaith y sgandal fod mor fawr â sgandal y banciau, ac y gallai cwsmeriaid honni eu bod nhw wedi prynu’r ceir yn seiliedig ar wybodaeth ffals.

Mae cwmni cyfreithwyr Leigh Day yn Llundain yn ystyried dwyn achos yn erbyn Volkswagen.