Mae dyn wedi bod gerbron llys ar ôl cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth 39 o bobol o Fietnam yng nghefn lori.

Mae Ronan Hughes, 40 oed o Ogledd Iwerddon, wedi cael ei gyhuddo o 39 achos o ddynladdiad ac un achos o hwyluso mynediad anghyfreithlon pobol i’r Deyrnas Unedig.

Cafwyd hyd i gyrff wyth o ferched a 31 o ddynion mewn trelar oergell ynghlwm wrth lori mewn parc diwydiannol yn Greys yn Essex yn oriau mân y bore ar Hydref 23 y llynedd.

Dywed yr erlynwyr fod Ronan Hughes wedi rhedeg busnes cludo ffyrdd a bod ei lorïau a’i yrwyr wedi cael eu defnyddio i gludo mewnfudwyr.

Mae’r achos yn parhau.