Mae Marks & Spencer wedi gweld prisiau cyfranau’n gostwng ar ôl cyhoeddi bod 950 swyddi yn y fantol fel rhan o’u cynlluniau ail-strwythuro.
Daw’r cyhoeddiad fel rhan o gynlluniau’r cwmni i drawsnewid y busnes ar ol i’r cynlluniau gael eu gohirio o ganlyniad i’r coronafeirws.
Mae’n debyg mai swyddi rheolwyr yn eu pencadlys a storfeydd fydd yn diflannu.
Dywed y cwmni eu bod nhw wedi dechrau ymgynghori gyda chynrychiolwyr eu staff gyda’r bwriad o gynnig diswyddiadau gwirfoddol i ddechrau.
Mae cwmniau fel John Lewis, Boots a Debenhams eisoes wedi cyhoeddi bod miloedd o swyddi’n diflannu.
Ym mis Mai, dywedodd Prif Weithredwr M&S Steve Rowe y byddai’r cwmni’n cyflymu rhannau o’i gynllun trawsnewid.
Parhaodd siopau bwyd y cwmni i fasnachu drwy gydol y cyfnod clo, ond cafodd gwerthiant dillad ei effeithio’n sylweddol.
Mae M&S hefyd wedi ailagor 118 o’u caffis erbyn hyn a dywedodd yr wythnos ddiwethaf y bydd yn trosglwyddo gostyngiadau TAW i’w cwsmeriaid.
Rhybuddiodd Steve Rowe yn y diweddariad diwethaf fod rhai arferion cwsmeriaid wedi newid am byth o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws.