Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi arwyddo cytundeb am 90 miliwn dos o frechlynnau coronaferiws addawol.

Maen nhw am brynu 60 miliwn dos o frechlyn gan gwmni fferyllol Valneva a 30 miliwn gan BioNtech/Pfizer. Fe fydd ganddyn  nhw opsiwn am 40 miliwn arall gan Valneva os bydd angen.

Bydd hyn yn ychwanegol i’r 100 miliwn o ddosau brechlyn sy’n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Rhydychen â  chwmni AstraZeneca – bydd canlyniadau cynnar hwnnw’n cael eu cyhoeddi yng nghylchgrawn meddygol The Lancet ddydd Llun.

Ac mae’r Llywodraeth wedi archebu cytundeb mewn egwyddor gydag AstraZeneca i brynu dosau o driniaeth i warchod rhai sy’n methu â chymryd brechlyn, er enghraifft cleifion canser.

‘Ar draws y byd’

Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn bwriadu cael portffolio o frechlynnau a thriniaethau posib ond fe bwysleisiodd cadeirydd Tasglu Brechlyn y Deyrnas Unedig mai’r bwriad yw rhannu’r darganfyddiadau gyda gweddill y byd.

Amcan y Tasglu yw “darganfod brechlynnau i’r Deyrnas Unedig, ond hefyd sicrhau bod unrhyw frechlyn llwyddiannus yn cael ei ddosbarthu ar draws y byd, fel bod unrhyw un sydd mewn risg o gael eu heintio’n derbyn brechlyn,” meddai Kate Bingham.

“Dydyn ni ddim yn dilyn strategaeth o genedlaetholdeb brechlynnau.”

Galw am 500,000 o wirfoddolwyr 

“Bydd y bartneriaeth newydd gyda rhai o gwmnïau fferyllol a brechlyn blaenllaw’r byd yn sicrhau bod gan y Deyrnas Unedig y cyfle gorau posib i sicrhau brechlyn sy’n gwarchod y bobol sy’n wynebu’r risg fwyaf,” meddai Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Alok Sharma.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi annog y cyhoedd i “chwarae rhan” drwy gofrestru gyda chofrestr ymchwil brechlyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – maen nhw eisiau cofrestru 500,000 o wirfoddolwyr erbyn mis Hydref er mwyn cymryd rhan mewn profion.

“Dw i’n annog pawb i gefnogi’r ymdrech genedlaethol a chofrestru gyda Chofrestr ymchwil brechlyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n helpu i ddarganfod brechlyn gyn gynted â phosib,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock.

“Bydd pob gwirfoddolwr yn chwarae rhan tuag at ddarganfod brechlyn fydd â’r potensial i achub miliynau o fywydau o amgylch y byd a dod a’r pandemig hwn i ben.”