Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig “agenda gelyniaethus” yn erbyn datganoli, yn ôl arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford.

Yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher (Gorffennaf 15), beirniadodd Ian Blackford gynlluniau’r Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth fydd yn golygu bod Llywodraeth San Steffan yn cadw rheolaeth o gyfreithiau cymorth gwladwriaethol ar ôl Brexit.

Mae’r SNP wedi galw am ddatganoli’r pŵer hwn.

“Yfory, bydd y Llywodraeth Geidwadol hon yn cyhoeddi deddfwriaeth sy’n cynrychioli’r cipiad pŵer mwyaf ers i bobol yr Alban bleidleisio dros o blaid Senedd yr Alban yn 1997,” meddai.

“Bydd cynllun San Steffan i osod corff sydd heb ei ethol […] i lywodraethu penderfyniadau Senedd yr Alban ddim yn cael ei dderbyn.

“Mae’n rhaid i benderfyniadau Senedd yr Alban gael eu gwneud gan bobol yr Alban, ac mi fyddan nhw.”

Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson: “I’r gwrthwyneb, mae beth rydym yn ei gyflwyno o bosib yn cynrychioli’r weithred ddatganoli mwyaf i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon mewn cof, a dylai fod yn dathlu’r dros 70 o bwerau sydd am gael eu trosglwyddo i bobol yr Alban.

“Mae’n crybwyll pobol heb ei ethol, anatebol. Yr hun mae ef eisiau ei wneud ydi rhoi pwerau y byddem ni’n ddychwelyd i’r Alban, o’r Senedd hwn i Frwsel.”

Dywedodd Ian Blackford ei bod hi’n “bechod nad yw’r Prif Weinidog yn deall gwerth economaidd y farchnad sengl Ewropeaidd a’r undeb tollau.

“Mae’r Prif Weinidog yn aml yn pwysleisio pwysigrwydd parchu canlyniadau refferendwm, yna dylai barchu’r penderfyniad wnaeth pobol yr Alban yn 1997.

“Rydym yn gwybod bod y Llywodraeth hon yn ymosod ar ddatganoli.”