Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod newid ei amserlen o ran pa ddeddfwriaeth fydd yn cael yn eu cyflwyno yn ystod gweddill y tymor hwn o’r Senedd.

Mae’n debyg y bydd rhan helaeth o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ymateb i’r coronafeirws a pharatoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd yn rhaid i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd gael ei gyflwyno cyn i’r cyfnod trosglwyddo ddod i ben ar Ragfyr 31.

Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno 50 o gyfreithiau ers dechrau pandemig y coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod cyflwyno dros 50 o gyfreithiau brys i ddelio â phandemig y coronaferiws.

Mae’r rhain yn cynnwys y cyfyngiadau symud, diogelu iechyd y cyhoedd, a galluogi gwasanaethau cyhoeddus i barhau i weithredu mewn amgylchiadau digynsail.

Heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 15), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o’r biliau y byddan nhw’n bwrw ymlaen â nhw ochr yn ochr â’r ymateb i’r coronafeirws yn yr hydref. Ymysg y rhain mae:

  • Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a fydd yn ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn yr etholiadau nesaf.
  • Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), a gyflwynwyd yr wythnos ddiwethaf i gefnogi’r trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd fel rhan o raglen ehangach i ddiwygio addysg er mwyn codi safonau a chau’r bwlch cyrhaeddiad.
  • Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a fydd yn gwella hawliau a sefyllfa tenantiaid yn y sector rhentu preifat.

Tra bydd rhaid oedi biliau eraill, megis:

  • Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) – gweithio gyda’r sector bysys er mwyn llunio’r dull gweithredu gorau at y dyfodol
  • Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil – sydd bellach wedi’i gyhoeddi ar ffurf Bil drafft ar gyfer ymgynghori.
  • Bil Partneriaeth Gymdeithasol – a gaiff hefyd ei gyhoeddi ar ffurf ddrafft

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn bwrw ymlaen â’r isod:

  • Ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i ardaloedd awyr agored mewn ysbytai, tiroedd ysgolion, a meysydd chwarae awdurdodau lleol.
  • Gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a’r system anghenion dysgu ychwanegol newydd.
  • Rhoi diwedd ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti masnachol.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20mya.

“Penderfyniadau anodd”

“Yng Nghymru rydyn ni wedi mynd ati’n ofalus ac yn bwyllog i ddelio â’r coronafeirws, ond nid yw hynny ar unrhyw gyfrif yn golygu yn araf,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Diolch i aberth aruthrol pobl Cymru wrth ddilyn y ddeddfwriaeth rydyn ni wedi’i chyflwyno dros y misoedd diwethaf, mae nifer yr achosion o coronafeirws ar ei isaf yng Nghymru ers dechrau’r argyfwng.

“Wrth roi ein hadnoddau ar waith i ddelio â’r pandemig, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ond byddwn ni’n parhau i flaenoriaethu newid blaengar, a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl Cymru.”