Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth brofi newydd ar gyfer afiechyd y coronafeirws.

Yng nghynhadledd i’r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y byddai’r strategaeth newydd yn helpu’r wlad i baratoi am ail don o’r coronafeirws.

Bydd y strategaeth newydd hwn hefyd yn gweithio tuag at “amddiffyn y gwasanaeth iechyd a chadw ein staff a chleifion yn ddiogel,” yn ôl Vaughan Gething.

“Mae’r strategaeth hwn yn gosod trywydd clir ar gyfer profi wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ac wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws ddisgyn o’r pegwn a welsom ddim ond ychydig wythnosau yn ôl.

“Mae hefyd yn ein galluogi i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ail don o’r feirws yn yr hydref.”

Gwarchod pobol fregus

Dywed Vaughan Gething y bydd y strategaeth newydd yn helpu i “warchod pobol fregus” yn y misoedd i ddod.

Ymysg y technegau newydd fydd y strategaeth newydd yn gwneud defnydd ohonynt fydd “olrhain yr haint er mwyn ei rwystro rhag lledaenu yn ogystal â datblygu gwell dealltwriaeth o sut mae’r feriws yn pasio o un person i’r llall.

“Bydd yn ein galluogi i amddiffyn pobol fregus, y rhai mae’r feirws yn peri mwyaf o berygl iddynt – a defnyddio technegau newydd i wella ein dealltwriaeth o’r afiechyd,” meddai Vaughan Gething.

“Mae’n rhaid i bawb baratoi ar gyfer y cam nesaf, oherwydd gallai fod yn aeaf anodd.”

Achosion coronafeirws mewn cartrefi gofal yn isel

Mae lefelau achosion o’r coronafeirws mewn cartrefi gofal yn isel, yn ôl Vaughan Gething.

Dywedodd fod staff cartrefi gofal wedi cael eu profi am y feirws yn wythnosol, gyda’r profion yn datgelu nad oes twf wedi bod yn nifer yr achosion.

Fodd bynnag, bydd staff cartrefi gofal yn parhau i gael eu profi am y coronafeirws yn wythnosol am fis arall, a hynny er mwyn gwarchod pobol oedrannus sy’n fwy bregus.

Os nad yw nifer yr achosion wedi codi ar ôl mis, bydd y Llywodraeth yn symud tuag at brofi staff bob pythefnos.

Y cyhoedd yn “cefnogi” gwahardd ysmygu mewn rhai mannau cyhoeddus

Yn ystod y gynhadledd, atebodd y Gweinidog Iechyd gwestiynau am wahardd ysmygu hefyd. Dywedodd fod y cyhoedd yn “cefnogi” penderfyniad y Llywodraeth i wahardd ysmygu mewn rhai mannau cyhoeddus.

Mae ysmygu tu allan i ysbytai, mewn parciau chwarae ac ysgolion wedi cael ei wahardd yn sgil deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Does “dim bwriad cyhoeddi unrhyw gyfyngiadau pellach yn nhymor y llywodraeth hon,” meddai Vaughan Gething.

“Y pwynt rydym yn ei wneud nawr yw bod ysmygu tu allan i ysbytai, mewn parciau chwarae ac ysgolion wedi cael ei wahardd ac mae hynny yn rhywbeth mae’r cyhoedd yn ei gefnogi.”