Wrth i Aelodau Seneddol drafod grymoedd dros gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud nad ydyn nhw yn credu y byddai annibyniaeth gweithio i Gymru.
“Nid yw’r status quo yn opsiwn,” meddai arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, “ond mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn credu nad annibyniaeth yw’r ateb. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ddiwygio’r ffordd y mae pethau’n gweithio fel y gallwn adeiladu Undeb ffederal cryfach a thecach.”
‘Dwy Lywodraeth yn dadlau’
Mae’r ddadl, a gychwynnwyd gan Blaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru geisio pwerau i gynnal refferendwm ar annibyniaeth Cymru yn ystod tymor nesaf y Senedd.
“Mae pobl yn teimlo’n rhwystredig iawn gyda’r ffordd y mae pethau ar hyn o bryd” meddai Jane Dodds.
“Mae’n nhw’n gweld dwy Lywodraeth, un ar bob pen i’r M4, yn dadlau a cheisio dirprwyo’r llall yn gyson, a’r cyfan yn methu gwneud newid gwirioneddol i’w bywydau.
“Er bod llawer yn gweld annibyniaeth fel yr ateb perffaith i holl broblemau Cymru, y gwir yw na fydd yn datrys unrhyw un ohonyn nhw.
“P’un a ydym yn rhan o’r Deyrnas Unedig ai peidio, rhaid inni wynebu’r un problemau o hyd ag sydd wedi bod yn bla am ddegawdau- diffyg swyddi â chyflogau da, tanfuddsoddi yn ein cymunedau a gwasanaethau gofal iechyd tameidiog.
Angen newid
Er hyn, nid yw Jane Dodds o’r farn fod yr Undeb fel y mae hi yn gweithio i Gymru chwaith.
“Gwyddom fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llywodraethu yn bennaf ar gyfer Lloegr, gan adael Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon bron fel ôl-ystyriaeth” meddai.
“Mae’n amlwg bod angen i ni newid y ffordd y mae pethau’n gweithio, ail-gydbwyso’r Deyrnas Unedig ac adeiladu teulu gwirioneddol gyfartal o genhedloedd.
“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig lywodraethu ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r materion mawr sy’n effeithio ar bawb.
“Yn y cyfamser, dylai seneddau cenedlaethol a rhanbarthol gael rheolaeth ar fywyd bob dydd – gan rymuso pobl a chymunedau i gael mwy o lais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw fwyaf.”