Mae sawl prosiect cerddorol neu gorawl wedi bod ar waith ers dechrau’r cyfnod clo, ac un sydd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i ddatblygu ei syniad am gôr mawr rhithwir yw’r cyfansoddwr ac arweinydd corawl, Richard Vaughan.

Nol ym mis Ebrill, 2020 cyfansoddodd Richard Vaughan ddarn corawl newydd a’i fwriad oedd creu “côr anferth rithiol” o gantorion ledled y wlad a oedd eisiau cymryd rhan.

Cafodd Richard, sydd yn wreiddiol o Rydaman ond bellach yng Nghaerdydd, gefnogaeth S4C ac felly fe aeth ati i anfon pecynnau i’r unigolion gyda’u copi, trac ymarfer a thrac cefndirol er mwyn iddyn nhw fynd ati i recordio.

Erbyn hyn, mae wythnos i fynd tan y bydd eu prosiect yn dod i’w uchafbwynt wrth i’r gân “Cerddwn drwy’r Tywyllwch”, a gyfansoddwyd gan Richard Vaughan gyda geiriau gan Ifan Erwyn Pleming, gael ei pherfformio ar raglen Heno, nos Fercher, Gorffennaf 22.

Ymateb gadarnhaol

“Mae’r ymateb i’r cynllun wedi bod yn wych ac mae’r gwaith golygu bron a dod i ben” meddai Richard Vaughan.

“Mi fyddwn yn perfformio première y gân ar Heno nos Fercher nesaf, ac mi fydd y soprano Jessica Robinson yn ymuno â fi am sgwrs ar y rhaglen.”

Yn y fideo terfynol mi fydd 200 o gantorion sydd yn cynrychioli 55 côr gwahanol – gyda rhai wedi gyrru fideos o Batagonia, America, Yr Almaen a Lloegr, yn ogystal â Chymru, wrth gwrs.

“Er mwyn ehangu’r syniad ymhellach, rydw i wedi trefnu’r cyfeiliant ar gyfer cerddorfa hefyd ac mae bron i 20 o offerynwyr nawr yn chwarae mewn cerddorfa rithwir yn ogystal â’r cantorion.”

Mae Richard wedi llwyddo i ddenu offerynwyr o gerddorfeydd y BBC, WNO, British Sinfonietta a’r ‘Welsh Session Orchestra’.

Mae’r portffolio o gantorion hefyd yn un safonol iawn gyda thri tenor Cymru – Rhys Meirion, Aled Hall ac Aled Wyn Davies – yn perfformio yn ogystal â phump cyn-enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Enlli Parri ar y ffliwt,  Rhys Taylor ar y clarinét, a’r tenoriaid ifanc, Elgan Llŷr Thomas, Hyw Ynyr a Rhydian Jenkins.

“Mae teuluoedd hefyd wedi cymryd rhan,” meddai Richard, “chwiorydd o Gwm Rhondda ac Ynys Wyth yn perfformio gyda’i gilydd a chantorion o Geredigion i Gaergybi i Gaerdydd!

“Mae’r cynllun wir wedi llwyddo i dynnu nifer fawr o bobl at ei gilydd drwy gyfnod anodd lockdown, yn union fel y bwriad gwreiddiol.”