Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gwersi gyrru yng Nghymru yn cael ailddechrau ar Gorffennaf 27.

Bydd profion theori gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun, Awst 3, ynghyd â phrofion galwedigaethol, beic modur, car a threlar, a phrofion gyrru tractor.

Bydd profion gyrru yn ailddechrau ddydd Llun 17 Awst, yn ogystal â phrofion hyfforddwyr gyrru a gwiriadau safonau.

Hanfodol

“Mae gwersi a phrofion gyrru yn hanfodol wrth helpu pobl i gyrraedd y gwaith ac ymweld ag anwyliaid – yn ogystal â darparu’r sgiliau ar gyfer oes o yrru’n ddiogel” meddai Prif Weithredwr y DVSA, Gareth Llewellyn.

“Wrth i Gymru adfer o COVID-19, gallwn ni bellach agor ein gwasanaethau a helpu i gael y wlad yn brysur unwaith eto, ac rwy’n falch iawn cyhoeddi y bydd gwersi gyrru yn ailddechrau – ond mewn modd sy’n diogelu rhag y coronafeirws.”

Roedd yn hanfodol nad oedd gwersi a phrofion yn ailddechrau nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny yn ôl Gareth Llewellyn, ac yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod hwn wedi bod yn adeg anodd iawn ar gyfer y wlad gyfan,” meddai , “gan gynnwys dysgwyr a hyfforddwyr gyrru, ond mae’n dda gen i gyhoeddi y bydd gwersi a phrofion gyrru yn ailddechrau yng Nghymru.

“Mae profion ar gyfer gweithwyr hanfodol wedi parhau yn ystod y cyfyngiadau symud, a hoffwn i ddiolch i’r holl hyfforddwyr ac arholwyr sydd wedi parhau i weithio i helpu i ddarparu profion ar gyfer y rheini sydd wedi gwneud cymaint i’n helpu ni yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.”