Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod pobl yn manteisio ar y post i ddanfon cyffuriau.

Daw hyn ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gyffuriau oedd yn cael eu hanfon drwy’r post mewn swyddfa ddosbarthu.

Ymunodd Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys ci, â’r Post Brenhinol yn Hwlffordd ddydd Mawrth (Gorffennaf 14), er mwyn dod o hyd i barseli amheus.

Roedd yr heddlu wedi derbyn sawl galwad gan staff yn y swyddfa ddosbarthu dros y misoedd diwethaf, yn adrodd am barseli roedden nhw’n amau oedd â chyffuriau ynddyn nhw.

Cafodd yr heddlu wybod am barsel bychan amheus, ac yn syth fe roddodd ci’r heddlu, PD Billy, arwydd cadarnhaol bod cyffuriau anghyfreithlon y tu mewn iddo.

Tu fewn i’r parsel, daeth yr heddlu o hyd i 2.6g o ganabis.

“Er mai ychydig iawn o gyffuriau gafodd ei ddarganfod, mae hyn yn dangos bod y Post Brenhinol yn cael ei ddefnyddio gan rai pobol i anfon sylweddau anghyfreithlon, ac wedi darparu gwybodaeth hanfodol i ni ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol,” meddai Sarjant Gerwyn Davies.

“Cawsom adborth positif gan staff a’r rheolwr, sydd nawr yn ymwybodol bod parseli amheus wedi cael eu danfon i rai cyfeiriadau yn yr ardal, ac rydym yn awyddus i hon fod yn bartneriaeth barhaus gyda’r bwriad o aflonyddu cyflenwad sylweddau anghyfreithlon.”