Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i warchod swyddi a chefnogi pobl hunangyflogedig yng Nghymru.

Dywed Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod cynlluniau’r Llywodraeth yn parhau i ddiogelu incwm 486,400 o bobol ledled y wlad.

Mae 378,400 o swyddi yng Nghymru wedi’u rhoi ar ffyrlo hyd at Fehefin 30, gyda mwyafrif o’r swyddi yn y sectorau cyfanwerthu a manwerthu, gwasanaethau llety a bwyd a gweithgynhyrchu.

Mae 108,000 o bobl hunangyflogedig yng Nghymru wedi cael mynediad i’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth ers iddo gael ei lansio ar Fehefin 13, gan hawlio £289 miliwn mewn cefnogaeth, yn ôl ffigyrau’r Llywodraeth.

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Llywodraeth y DU yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi pobl yng Nghymru ac economi Cymru drwy’r argyfwng hwn, yn enwedig wrth inni addasu i ailagor ein cymdeithas yn raddol ac yn bwyllog,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

“Ynghyd â chymhellion eraill megis y Bonws Cadw Swyddi, sy’n werth £1,000 am bob gweithiwr ar gyfer cwmnïau sy’n cadw staff sydd wedi bod ar ffyrlo, rydym yn cefnogi busnesau a chyflogwyr i gadw pobol mewn gwaith wrth i ni ddechrau ar y dasg o ailadeiladu ein heconomi.

“Mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu £2.8 biliwn o arian drwy’r fformiwla Barnett i helpu Llywodraeth Cymru i gyflwyno ei hymateb i’r coronafeirws.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda gweinidogion yn y weinyddiaeth ddatganoledig i sicrhau bod ein hymateb i’r coronafeirws yn rhoi hyd yn oed mwy o sicrwydd i gyflogwyr a gweithwyr wrth i ni neidio’n ôl o’r pandemig.”