Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn awgrymu y gallai pobol yn Lloegr gael eu gorfodi i wisgo mygydau yn sgil y coronafeirws, wrth iddo eu hannog i ddychwelyd i’r gwaith os oes modd.

Dywed ei fod e am fod yn “llymach” o ran gwisgo mygydau a gorchudd trwyn mewn llefydd cyfyng lle mae pobol yn cyfarfod â phobol eraill nad ydyn nhw fel arfer yn eu gweld.

Maen nhw’n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn ysbytai Lloegr, ond mae pobol yn cael eu cynghori yn yr awyr agored wrth gyfarfod â phobol eraill nad ydyn nhw wedi bod yn cyfarfod â nhw o’r blaen.

Mae lle i gredu bod Downing Street yn ystyried yr awgrym, a’r disgwyl yw y gallai ddod i rym dros yr wythnosau nesaf fel rhan o reolau newydd.

Cafodd Boris Johnson ei weld yn gwisgo mwgwd am y tro cyntaf ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 10) wrth iddo ymweld â busnesau yn ei etholaeth yn Uxbridge.

Dywed mai mantra newydd y llywodraeth fydd “ewch i’r gwaith os gallwch chi” yn hytrach nag “arhoswch gartref os gallwch chi”.

“Dw i am weld pobol yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r siopau, wrth ddefnyddio’r bwytai, ac wrth ddychwelyd i’r gwaith – ond dim ond os ydyn ni’n dilyn y canllawiau,” meddai.

Ymchwil

Mae ystadegau diweddara’r Swyddfa Ystadegau’n awgrymu bod 52% o oedolion a gafodd eu holi fel rhan o arolwg wedi gwisgo mwgwd wrth fynd allan yn yr wythnos cyn Gorffennaf 2.

Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Gorffennaf 2-5.

Roedd y ffigwr 9% yn uwch na’r wythnos flaenorol.

Ymateb

Mae cyn-weinidog Ceidwadol a llywydd cymdeithas ymhlith y rhai sy’n galw ar bobol i wisgo mygydau wrth fynd allan.

Yn ôl Jeremy Hunt, y cyn-Ysgrifennydd Iechyd, dylai pobol wisgo mwgwd wrth fynd i siopa.

Mae hefyd yn galw am neges syml gan Lywodraeth Prydain.

Mae’n dweud nad yw’r neges syml fod angen gwisgo mwgwd o fewn dwy fetr i rywun “yn ateb y cwestiwn sylfaenol, sef os ydw i’n mynd i siopa, a ddylwn i wisgo mwgwd neu beidio?”

Mae’n dweud bod angen negeseuon “syml” yn ystod pandemig, a bod hynny’n golygu dweud wrth bobol fod angen gwisgo mwgwd wrth fynd i siopa.

Yn ôl yr Athro Venki Ramakrishnan, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, dylai pawb wisgo mwgwd yn gyhoeddus er mwyn lleihau’r pergyl o gael ail don o’r feirws.