Mae John Lewis wedi cyhoeddi y bydd yn cau wyth o’i siopau yn barhaol gan roi 1,300 o swyddi yn y fantol.

Dywedodd Partneriaeth John Lewis eu bod wedi gwneud y penderfyniad “er mwyn diogelu dyfodol hirdymor y busnes ac ymateb i ofynion siopa ein cwsmeriaid.”

Fe fydd eu siopau yn Birmingham a Watford yn cael eu heffeithio ynghyd a phedair o’i siopau At Home stores yn Croydon, Newbury, Swindon a Tamworth, a’u siopau yn Heathrow a St Pancras.

Cyn y pandemig roedd yr wyth siop eisoes yn peri “her ariannol” ond roedd cwsmeriaid wedi troi at siopa ar-lein  ganlyniad i’r coronafeirws, meddai’r cwmni.

Mae’r grŵp yn amcangyfrif y bydd hyd at 60% i 70% o’u gwerthiant yn cael ei wneud ar-lein eleni a’r flwyddyn nesaf, o’i gymharu â 40% cyn y coronafeirws.

Fe fydd tua 1,300 o weithwyr John Lewis bellach yn dechrau cyfnod ymgynghori.

Dywed y cwmni y bydd “pob ymdrech” yn cael ei wneud i ddod o hyd i swyddi newydd i’r gweithwyr ar draws y grŵp os oes diswyddiadau’n cael eu cadarnhau.

Boots

Yn y cyfamser dywed cwmni Boots eu bod nhw’n disgwyl cael gwared a mwy na 4,000 o swyddi oherwydd gostyngiad mewn gwerthiant yn sgil y pandemig.