Mae dyn 45 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod ag arfau a ffrwydron yn ei feddiant.

Cafodd y dyn ei arestio yn Sunderland gan yr heddlu sy’n cynnal ymchwiliad yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd ffrwydron, dryllau a bwledi eu darganfod gan yr heddlu yn ardal Ballymurphy yn Belfast ddydd Gwener.

Mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ymddygiad gweriniaethwyr.

Mae gwleidyddion uniolaethol wedi mynegi eu pryder wedi i ddyfais ffrwydrol Semtex gael ei ddarganfod yn ystod y cyrch.

Roedd Semtex yn cael ei ddefnyddio gan yr IRA yn y 1980au a’r 1990au, ac mae lle i gredu bod yr heddlu wedi dod o hyd i ddigon ohono i greu tri bom car.