Mae dynes 22 oed o Fanceinion mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi i dacsi ei tharo a gyrru i ffwrdd yn oriau man bore Sul.
Cafodd y ddynes anafiadau difrifol i’w phen yn dilyn y digwyddiad yng nghanol y ddinas am oddeutu 4.45 y bore.
Gyrrodd y tacsi oedd wedi ei tharo i ffwrdd yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.