Mae o leiaf 14 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad yn ninas Aleppo yn Syria.

Roedd saith o blant ymhlith y rhai gafodd eu lladd.

Digwyddodd y ffrwydrad yng nghymuned al-Midan, oedd unwaith yn gartref i gymuned Armeniaidd.

Mae lle i gredu bod cyrchoedd awyr cyfagos wedi achosi marwolaeth un plentyn.

Fe fu dinas Aleppo yn rhanedig ers 2012, wrth i’r llywodraeth barhau yng ngofal rhannau gorllewinol y ddinas, ond mae’r dwyrain yng ngofal gwrthryfelwyr.