Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfryfol, Tim Farron wedi wfftio adroddiadau y gallai ei blaid roi terfyn ar un o draddodiadau mwyaf gwledydd Prydain – y fan hufen iâ.

Mae adroddiadau’n awgrymu fod y blaid yn awyddus i gyflwyno polisi fyddai’n atal gyrwyr rhag rhedeg injan diesel heb fod cerbydau’n symud.

Mae disgwyl i’r blaid gynnal pleidlais ar y mater yn ystod eu cynhadledd yn Bournemouth mewn ymgais i leihau llygredd awyr.

Mae faniau hufen iâ yn ddibynnol ar injan ar gyfer rhewgelloedd a pheiriannau 99.

Dywedodd arweinydd y blaid, Tim Farron fod rhesymau da am gyflwyno’r polisi, ac nad yw’n fwriad ganddo ddinistrio’r traddodiad.