Mae’r awdures Jackie Collins wedi marw’n 77 oed.

Roedd hi’n dioddef o ganser y fron ers chwe blynedd a hanner.

Roedd hi’n fwyaf adnabyddus fel awdures nofelau rhywiol, ac mi werthodd dros 500 miliwn o lyfrau mewn 40 o wledydd yn ystod ei gyrfa a barodd bedwar degawd.

Roedd ei nofelau’n adrodd hanesion y byd Hollywood, ac roedd ei gwerthwyr gorau’n cynnwys ‘The World is Full of Married Men’, ‘The Love Killers’ a ‘The World is Full of Divorced Women’.

Cafodd ‘Hollywood Wives’ ei throi’n gyfres deledu oedd yn serennu Farrah Fawcett ac Anthony Hopkins.

Derbyniodd Jackie Collins yr OBE yn 2013.

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: “Gyda thristwch mawr rydyn ni’n cyhoeddi marwolaeth ein mam hardd, ddeinamig ac unigryw, Jackie Collins, fu farw o ganser y fron heddiw.

“Cafodd fywyd hyfryd a llawn, ac roedd ei theulu, ei ffrindiau a’i miliynau o ddarllenwyr y bu hi’n eu diddanu ers dros bedwar degawd, yn ei charu.”

Bydd gwasanaeth coffa preifat yn cael ei gynnal yn yr Unol Daleithiau ac yn Lloegr.