Mae pobol yng Ngwlad Groeg wedi dechrau pleidleisio i ddewis arweinydd newydd fydd yn gyfrifol am sefydlogi’r wlad yn ariannol.

Roedd polau cyn yr etholiad yn awgrymu bod plaid lywodraethol Syriza o dan Alexis Tsipras fymryn ar y blaen i’r blaid Democratiaeth Newydd.

Mae Syriza wedi addo cyflwyno camau o lymder i geisio datrys sefyllfa’r wlad yn gyfnewid am gymorth gwerth biliynau o ewro.

Ond ar hyn o bryd, mae’r polau’n awgrymu na fydd gan yr enillydd ddigon o bleidleisiau i ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain.

Cafodd yr etholiad ei drefnu yn dilyn ymddiswyddiad Alexis Tsipras wedi saith mis yn unig wrth y llyw.

Roedd yn wynebu gwrthdystiad oddi mewn i’w blaid ei hun am ei fod wedi gwneud tro pedol ynghylch derbyn amodau’r cymorth a gafodd ei roi i Wlad Groeg.

Roedd Tsipras wedi dadlau nad oedd ganddo ddewis ond derbyn y mesurau ac roedd Gwlad Groeg yn wynebu’r posibilrwydd o fynd yn fethdal.

Gwrthwynebydd Tsipras yn yr etholiad yw Vangelis Meimarakis, 61, sy’n galw am sefydlogrwydd i’r wlad.

Mae disgwyl i gredydwyr adolygu’r sefyllfa fis nesaf, pan fydd rhaid i’r llywodraeth greu drafft o’r gyllideb ar gyfer 2016.

Mae angen 151 o seddi ar y blaid fuddugol er mwyn ffurfio llywodraeth, ond mae’n debygol mai clymblaid rhwng tair plaid fydd y canlyniad yn y pen draw.