Cerdd i gofio’r diweddar Ddr Meredydd Evans a enillodd y gadair yn yr eisteddfod gynta’ i gael ei chynnal yng Nghwmystwyth, Ceredigion, ers dros hanner canrif.

‘Terfynau’ oedd testun y gystadleuaeth – testun a osodwyd gan Merêd ei hun a fu’n byw yn Afallon, Cwmystwyth ers y 1970au.

‘Afallon’ hefyd oedd ffugenw’r buddugol, sef ‘Rocet’ Arwel Jones o Aberystwyth.

Cofio cynnil

Yn ôl beirniad y gystadleuaeth, y Prifardd Hywel Griffiths, roedd y cerddi buddugol yn rhai “cynnil a gwreiddiol” ac yn coffáu ymdrech Merêd i warchod a rhannu terfynau’r genedl.

Roedd trefniant cerddorol wedi’u gosod ar eu cyfer hefyd.

“Rhwng bod yr eisteddfod wedi ailgodi, a’r testun mor arbennig, roedd rhaid imi gael tro arni”, meddai Arwel Jones.

Ac wrth ei gadeirio yng nghapel Siloam, atgoffwyd y gynulleidfa am y tro diwethaf iddo sefyll yn yr union fan – a hynny fis Chwefror eleni wrth iddo draddodi teyrnged yn angladd Merêd.

Gwnaed y gadair fechan sy’n gyfuniad o dderw, llechi Tanygrisiau a phlwm Cwmystwyth gan Hedd Bleddyn.

Menter newydd

Cynhaliwyd yr Eisteddfod ddiwethaf yng Nghwmystwyth yn 1961, ac roedd y trefnwyr yn falch o weld y capel o dan ei sang eleni.

“Mae’r ardal wedi tynnu at ei gilydd i wireddu un o weledigaethau Merêd,” meddai Brython Davies, aelod o bwyllgor yr eisteddfod.

“Aeth hi’n eitha emosiynol yma ar un adeg.”

Roedd yn falch hefyd o weld corau a phartϊon wedi ffurfio yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a dywedodd fod “hwyl cefen gwlad wedi ailgodi yma’n y Cwm”.