Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi mae’r cyfarwyddwr, Euros Lyn, fydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips am ei gyfraniad i fyd ffilm a theledu.

Nid dyma’r wobr gyntaf i’r Cyfarwyddwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd, ac sydd wedi byw yng Ngwynedd ac Abertawe hefyd, ei hennill.

Mae eisoes wedi ennill pum BAFTA am Gyfres Ddrama, tair Gwobr BAFTA Cymru am gyfarwyddo ynghyd ag ennill gwobr Emmy Rhyngwladol.

Mae wedi cyfarwyddo’r cyfresi Cymraeg gan gynnwys Pam Fi Duw?, Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw a Gwyfyn.

Mae hefyd wedi cyfarwyddo sawl pennod o Doctor Who ynghyd â Torchwood: Children of Earth, Sherlock, Last Tango In Halifax, Broadchurch, Black Mirror, Happy Valley, Daredevil a Belonging.

Un o’i brosiectau diweddaraf, serch hynny, yw cyfarwyddo’r ffilm newydd Gymraeg, Y Llyfrgell, sy’n addasiad o nofel Fflur Dafydd ac sydd wedi’i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/199716-thriller-cymraeg-wedii-leoli-yn-y-llyfrgell-genedlaethol

Euros Lyn yw’r cyfarwyddwr cyntaf i dderbyn yr anrhydedd hon. Mae enillwyr blaenorol Gwobr Siân Phillips yn cynnwys Rhys Ifans, Russell T Davies, Michael Sheen, Ioan Gruffudd, Ruth Jones, Rob Brydon, Matthew Rhys, Robert Pugh, Julie Gardner a Jeremy Bowen.

Caiff y wobr ei noddi gan Lywodraeth Cymru, ac fe fydd yn cael ei chyflwyno i’r Cyfarwyddwr yn ystod Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ar 27 Medi yn Theatr Sherman Cymru, Caerdydd.