Mae sioe theatrig wnaeth werthu allan yng Nghaerdydd yn cael ei pherfformio yng Nghaernarfon heno.
Bwriad Ti.Me yw cyflwyno ‘archwiliad corfforol a phryfoclyd o berthnasau, sut mae’n teimlo i fod mewn cariad, a beth sy’n digwydd pan mae cariad yn chwalu’.
Fe gafodd y sioe ei pherfformio dair gwaith yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwetha’, gyda’r 80 o docynnau ar gyfer perfformiadau nos Iau a Gwener yn gwerthu allan.
Mae awdur Ti.Me yn “falch” o lwyddiant y sioe sy’n cyfuno theatr a cherddoriaeth byw wrth adrodd hanes “ffawd yn dod a dau berson anghywir at ei gilydd”.
“Rydan ni’n ailymweld â hanes perthynas y ddau gymeriad, ac wedyn yn dod yn ôl i’r presennol, sef bod y berthynas wedi gorffen,” eglura Elgan Rhys yr awdur.
“Be ydy o i fod yn secsi”
Ti.Me yw ail gynhyrchiad Cwmni Pluen a gafodd ei sefydlu gan Elgan Rhys a Gethin Evans.
Yn y sioe mae cymeriad yr actores Heledd Gwynn yn siarad Cymraeg, a chymeriad Alan Humphreys yn siarad Saesneg.
“Rydan ni’n chwarae lot efo iaith, ac mae hynny’n bwysig i ni fel cwmni… rydan ni eisiau rhoi profiad dwyieithog i gynulleidfaoedd,” eglura Elgan Rhys.
Hefyd yn Ti.Me mae yna “olygfeydd o natur rywiol…awgrym o garu, o seduction, a be ydy o i fod yn secsi” meddai Elgan Rhys.
Ti.Me yn Galeri Caernarfon heno am wyth.