Mae dynes yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, wedi i asid gael ei daflu i’w hwyneb yn Southampton.

Mae Heddlu Hampshire yn dweud i’r ddynes 37 mlwydd oed gael ei hanafu tua 9yh neithiwr, a hynny y tu allan i fwyty Turtle Bay yn Sgwar y Guildhall yn y dre’.

Fe gafodd ei chludon syth i Ysbyty Cyffredinol Southampton gyda llosgiadau ar ei hwyneb ei gwddw a’i breichiau.

Mae’r heddlu’n credu mai digwyddiad ynysig ydi hwn, ac nad oes gan ferched eraill le i boeni y gallai ddigwydd iddyn nhw.