Mae neidr wyth troedfedd o hyd ar goll yng nghefn gwlad gogledd Lloegr, wedi iddi ddianc o’i chartre’ yn Cumbria.

Mae’r boa constrictor – y math o neidr sy’n adnabyddus ar wasgu ei phrae i farwolaeth – ar goll o’r ty yn Kells, Whitehaven ers neithiwr.

Roedd y neidr yn cael ei glanhau bryd hynny, ac fe’i gadawyd ar ei phen ei hun am gyfnod byr… a dyw ei pherchennog ddim wedi’i gweld ers hynny.

“Dydi’r anifail ddim yn fygythiad mawr i’r cyhoedd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Cumbria, “ond os y gwelith rhywun y neidr, mae’n well iddyn nhw beidio â mynd yn rhy agos ati.”

Mae datganiad yr heddlu yn awgrymu y dylai unrhyw un sy’n gweld y creadur, ffonio’r awdurdodau ar y rhif 101.