Mae Scotland Yard yn ymchwilio i honiadau bod Special Branch wedi ceisio ymyrryd mewn ymchwiliad a fyddai wedi datgelu bod Aelod Seneddol yn gysylltiedig â throseddau rhyw yn erbyn plant.

Mae’r honiad yn un o 12 o achosion newydd o honiadau hanesyddol am lygredd yn ymwneud ag ymchwiliad i weithredoedd pedoffiliaid o’r 1970au hyd at 2000, meddai Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Mae’r honiadau newydd sy’n cael eu hymchwilio gan Scotland Yard yn ychwanegol at 17 o honiadau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Maen nhw’n ymwneud a honiadau bod tystiolaeth wedi ei gelu, ymchwiliadau wedi’u hatal a throseddau wedi’u celu oherwydd y cysylltiad gydag ASau, swyddogion yr heddlu a ffigurau adnabyddus.