Dynes a'i phlentyn ar y ffin rhwng Awstria a'r Almaen
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, David Cameron yn gofyn iddo ‘adolygu ymateb y llywodraeth’ i argyfwng y ffoaduriaid.

Yn y llythyr, mae Cadeirydd Pwyllgor Dinasyddiaeth Cristnogol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn dweud ei fod yn cymeradwyo penderfyniad y llywodraeth i dderbyn 20,000 o ffoaduriaid i’r DU ond ei fod hefyd yn credu gallai’r niferoedd gael eu cynyddu’n sylweddol.

Mae’r undeb hefyd wedi anghytuno’n llwyr â phenderfyniad y llywodraeth i beidio â derbyn ffoaduriaid sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop.

‘Perygl y bydd rhai ffoaduriaid yn cael eu hanghofio’

 

“Nid yw polisi o’r fath yn cyrraedd, heb sôn am liniaru, y sefyllfa bresennol yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai’r Parchedig Hywel Wyn Richards.

“Rydym hefyd yn credu bod perygl y gall y polisi gael ei ddefnyddio i roi triniaeth ffafriol i ffoaduriaid sy’n cael eu gweld yn ‘dderbyniol’ mewn termau cymdeithasol a chyflogadwyedd, ac y bydd y rhai sydd heb addysg na sgiliau yn cael eu hanghofio.”

Mae’r undeb hefyd yn gryf yn erbyn cynnig y Canghellor, George Osborne i ddefnyddio cyllid Cymorth Rhyngwladol i dalu am y ffoaduriaid sy’n dod i’r wlad yn ystod y flwyddyn nesaf.

“Bydd cynnig y Canghellor yn amddifadu gwledydd datblygedig o gymorth ariannol sydd wir ei angen arnyn nhw. Credwn yn gryf y dylai’r llywodraeth ariannu’r ffoaduriaid (sy’n dod i’r DU) o ffynonellau eraill.”