Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi cael ei feirniadu’n hallt gan wleidyddion ac yn y cyfryngau ar ôl iddo beidio â chanu anthem God Save The Queen mewn gwasanaeth gofio dydd Mawrth.

Roedd arweinydd newydd y blaid Lafur mewn gwasanaeth i nodi Brwydr Prydain yn yr Ail Ryfel Byd, 75 mlynedd ers i luoedd awyr Prydain drechu’r Almaenwyr.

Ond fe arhosodd Corbyn, sydd yn weriniaethwr ac o blaid cael gwared â’r frenhiniaeth, yn ddistaw wrth i eraill ganu’r anthem yn ystod y seremoni.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron ac arweinydd UKIP Nigel Farage ymysg y rheiny sydd eisoes wedi cwestiynu’r arweinydd Llafur am wrthod canu.

Roedd y ffrae hefyd ar dudalennau blaen naw o bapurau newydd Prydain dydd Mercher, a hynny wrth i Corbyn baratoi i wynebu Cameron yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog am y tro cyntaf.

‘Amharchus’

Yn ôl yr AS Ceidwadol Syr Nicholas Soames, nai i Winston Churchill, roedd penderfyniad Jeremy Corbyn i beidio â chanu’r anthem yn “hynod o anghwrtais a hynod o amharchus” i’r Frenhines a’r “peilotiaid ym Mrwydr Prydain”.

Ychwanegodd AS Ceidwadol arall, Andrew Rosindell, ei fod yn “siomedig” nad oedd Corbyn wedi canu’r anthem gan fod pobl Prydain “yn gefnogol iawn i’r frenhiniaeth”, er ei fod yn deall “safbwyntiau cryf” yr arweinydd Llafur.

Disgrifiodd Nigel Farage yr arweinydd Llafur fel “gweriniaethwr i’r carn” gan ddweud mai nifer fechan iawn o gefnogwyr y blaid fyddai wedi cytuno â’i safbwynt.

Ychwanegodd David Cameron ei fod yn llwyr ymwybodol o “bwysigrwydd” yr anthem a’i fod yn “falch iawn” o’i chanu mewn unrhyw seremonïau.

‘Syfrdanol’

Cafodd Jeremy Corbyn ei feirniadu gan rai o fewn ei blaid ei hun hefyd, gyda llefarydd yr wrthblaid dros ferched a chydraddoldeb, Kate Green, yn dweud y byddai rhai pobl wedi cael eu “pechu a’u brifo” gan y penderfyniad i beidio â chanu.

Ychwanegodd y Llyngesydd Arglwydd West, sydd yn cynrychioli Llafur yn Nhŷ’r Arglwyddi, ei bod hi’n “syfrdanol” nad oedd Corbyn wedi canu anthem a ddywedodd oedd yn cynrychioli teyrngarwch i’r genedl.

‘Tawelwch parchus’

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd llefarydd ar ran Jeremy Corbyn fod yr arweinydd Llafur eisoes wedi talu teyrnged i’r rheiny oedd wedi ymladd ym Mrwydr Prydain a’i fod wedi sefyll mewn “tawelwch parchus” yn ystod yr anthem.

Ond mae wedi gwrthod dweud a fydd yn canu’r anthem mewn gwasanaethau seremonïol yn y dyfodol, gan fynnu y bydd yn ymddwyn gyda “pharch” ac yn chwarae “rhan lawn.”

Cafodd Corbyn gefnogaeth gan ambell ffynhonnell annisgwyl hefyd, gyda’r AS Ceidwadol James Gray yn dweud y dylid ei gymeradwyo am fynychu’r gwasanaeth er ei fod yn “heddychwr a ddim yn frenhiniaethwr”.

Roedd yr ymateb ar gyfryngau cymdeithasol hefyd yn gymysglyd, gyda nifer yn cyhuddo’r arweinydd Llafur o fod yn rhagrithiol ond eraill yn amddiffyn ei safbwynt, ac yn beirniadu natur frenhiniaethol a chrefyddol yr anthem.