Mae nifer y bobl sy’n ddi-waith yn parhau i gynyddu, yn ôl ffigurau swyddogol heddiw.

Er bod gweithwyr wedi gweld y cynnydd mwyaf yn eu cyflogau mewn termau real ers mwy na degawd, mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod diweithdra wedi cynyddu am y trydydd mis yn olynol – y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers 2011.

Mae lefel chwyddiant o bron i 0% yn golygu bod y cynnydd mewn cyflogau’n cael mwy o effaith nag unrhyw gyfnod ers mis Awst 2002 ond fe allai arwain at bwysau ar Fanc Lloegr i gynyddu cyfraddau llog.

Roedd cyflogau wedi cynyddu 2.9% yn y tri mis hyd at fis Gorffennaf, yn ôl yr ONS.

Ond fe fu cynnydd o 10,000 yn nifer y di-waith rhwng mis Mai a Gorffennaf, i 1.82 miliwn.

Serch hynny, mae nifer y bobl sydd mewn gwaith hefyd wedi cynyddu 42,000 i 31.09 miliwn yn yr un cyfnod.

Mae nifer y bobl sy’n ddi-waith yn y tri mis hyd at fis Gorffennaf 198,000 yn is na’r flwyddyn flaenorol tra bod y nifer sydd mewn gwaith 413,000 yn uwch o’i gymharu a 2014.

Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal di-waith wedi cynyddu 1,200 i 791,700 fis diwethaf.

Cymru

Yng Nghymru fe fu cynnydd o 4,000 yn nifer y di-waith yn yr un cyfnod i 99,000 sef 6.5% o’r boblogaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dros y 12 mis diwethaf, mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf yn nifer y bobl mewn gwaith nag unrhyw ran arall o’r DU.

“Mae’r canlyniadau’n profi bod economi Cymru’n perfformio’n dda a bode in polisiau i greu swyddi yn gweithio.

“Fel llywodraeth sydd o blaid busnesau, rydym yn gweithio gyda chwmnïau i greu twf economaidd a swyddi fel y 154 o swyddi sydd wedi cael eu diogelu yn  Dailycer UK yng Nglannau Dyfrdwy a 64 o swyddi newydd yn Affresol yn Abertawe dros yr wythnos ddiwethaf.”

Osborne yn croesawu

Dywedodd y Canghellor George Osborne ar Twitter: “Gyda chyflogau’n cynyddu 2.9% dros y flwyddyn a chwyddiant yn isel, mae pobl sy’n gweithio wedi cael y cynnydd mwyaf mewn termau real ers dros ddegawd.

“Mae’r gyfradd sydd mewn cyflogaeth hefyd yn 73.5%, sef y nifer uchaf erioed. Ond rydym yn dal i wynebu risgiau gan yr economi rhyngwladol a’r rheiny gartref sy’n bygwth tanseilio ein diogelwch economaidd.”