Ffoaduriaid yn cael eu hachub yn yr Eidal
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi galw ar wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd i “weithredu” a dilyn esiampl Prydain wrth ariannu gwersylloedd ffoaduriaid ar y ffin â Syria.
Dywedodd David Cameron fod “cysylltiad uniongyrchol” rhwng y diffyg cymorth i wersylloedd yn Libanus, Gwlad yr Iorddonen a Thwrci a’r mewnlifiad o bobl sy’n ffoi i Ewrop.
Wrth siarad yn ystod ymweliad â’r gwersyll anferth, Za’atri yng Ngwlad yr Iorddonen sy’n rhoi lloches i 90,000 o bobl o Syria, dywedodd y byddai diffyg cymorth yn y gwersylloedd hyn yn arwain at “llawer, llawer” mwy o bobl yn gwneud y penderfyniad i wneud y daith beryglus dros y môr i Ewrop.
“Rydym wedi rhoi tua £1 biliwn (i’r gwersylloedd ar y ffin â Syria), mae hynny’n 10 gwaith yn fwy na rhai o’r gwledydd yn ein cyffiniau,” meddai’r Prif Weinidog.
“Byddem yn annog eraill i weithredu a gwario a buddsoddi yn y ffordd y mae Prydain wedi ei gwneud.
“Mae 11 miliwn o bobl ddigartref yn Syria, ac mae 3% ohonynt hyd yn hyn wedi penderfynu dod i Ewrop. Gall nifer anferth benderfynu ddod i Ewrop. Mae hyn yn tanlinellu mor bwysig yw hi i wledydd eraill rhoi cymorth i wersylloedd ffoaduriaid a chefnogi pobl sy’n byw yn Syria o hyd.”
Pwysau i roi lloches i fwy o ffoaduriaid
Mae David Cameron wedi bod dan bwysau i ymuno â chynllun yr Undeb Ewropeaidd i ail-leoli 160,000 o ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd Ewrop yn y misoedd diwethaf.
Roedd y Prif Weinidog wedi dadlau y byddai hyn yn annog rhagor o bobl i wneud y daith beryglus dros y môr i Ewrop a dywedodd fod y rhai yr oedd wedi siarad â nhw yn Za’atri ac yn Libanus am fynd adref i Syria heddychlon, ac nid i Ewrop.
Galw am roi “croeso cynnes” i ffoaduriaid
Roedd David Cameron wedi cwrdd â rhai o’r teuluoedd a fydd yn dod i’r DU fel rhan o gynllun i dderbyn 20,000 o’r ffoaduriaid mwyaf bregus o’r gwersylloedd yn y Dwyrain Canol.
Byddai’r rhain yn cynnwys plant sâl, menywod oedd wedi cael eu treisio a dynion oedd wedi cael eu harteithio gan lywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad neu’r grŵp brawychol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Cyhoeddodd y bydd yn penodi Richard Harrington sy’n Aelod Seneddol dros Watford fel gweinidog dros ffoaduriaid o Syria i oruchwylio’r cynllun i groesawu’r rhai sy’n cyrraedd y DU dros y pum mlynedd nesaf.
Galwodd ar Brydain i roi “croeso cynnes” iddyn nhw, gan ddweud bod cynnig lloches yn “rhywbeth y gall y wlad i gyd fod yn falch ohono.”
I ble mae arian Prydain yn mynd?
Bydd £29 miliwn o rodd ddiweddaraf y DU gwerth £100 miliwn i ffoaduriaid Syria yn mynd i Libanus, gyda £60 miliwn yn mynd i asiantaethau ac elusennau yn Syria ei hun. Bydd £6 miliwn yn mynd i Wlad yr Iorddonen a £5 miliwn i Dwrci.