Elfyn Llwyd, cyn-AS Plaid Cymru
Mae’n bosib y byddai Jeremy Corbyn wedi dewis un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn ei gabinet newydd petai’r gwleidydd hwnnw heb ymddeol yn yr etholiad diwethaf.
Dywedodd Elfyn Llwyd, oedd yn AS ar Feirionnydd Nant Conwy ac yna Dwyfor Meirionnydd rhwng 1992 a 2015, y gallai arweinydd newydd y Blaid Lafur fod wedi’i wahodd i’w dîm.
Roedd y ddau yn ffrindiau agos yn ystod cyfnod Elfyn Llwyd yn San Steffan, ac roedd Jeremy Corbyn yn aml yn gwrthryfela yn erbyn ei blaid ac ochri gyda Phlaid Cymru ar rai materion.
“Mae gen i un gofid mod i wedi sefyll lawr, achos dw i’n llawiau mawr efo Jeremy Corbyn, mae ‘na siawns ‘swn i wedi bod yn ei gabinet o ‘swn i ‘di dal ati,” meddai Elfyn Llwyd wrth siarad ar bodlediad Golwg360 yn ddiweddar.
“Mae o’r teip o beth fysa fo’n gwneud, fysa dwyn pobl i fewn o’r Gwyrddion a’r pleidiau llai, achos dyna’r ffordd mae Jeremy’n meddwl.”
Gallwch wrando ar y podlediad gydag Elfyn Llwyd a Richard Wyn Jones yn trafod Jeremy Corbyn, UKIP, etholiad Cynulliad 2016 a mwy isod:
Her i Blaid Cymru
Awgrymodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, oedd hefyd yn rhan o’r sgwrs ar y podlediad, y gallai ethol Corbyn olygu fod Llafur yn wynebu brwydr galetach yn rhai o seddi Cymru yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.
“Ydan ni’n meddwl fod Jeremy Corbyn fel arweinydd yn ei gwneud hi’n fwy neu’n llai tebygol fod y blaid Lafur yn mynd i ddal eu gafael ar [seddi fel] Bro Morgannwg? ‘Da ni ddim yn gwybod. Ond mae hi wir yn gyfnod diddorol,” meddai Richard Wyn Jones.
Ond fe gwestiynodd hefyd sut y byddai Plaid Cymru yn ymateb i’r her newydd o’r chwith, gan gyfeirio at y ffaith bod nifer o aelodau’r blaid wedi canmol egwyddorion Jeremy Corbyn.
Cyfaddefodd Elfyn Llwyd y gallai Corbyn gipio pleidleisiau oddi ar Blaid Cymru yn y tymor byr, ond awgrymodd nad oedd yn disgwyl i’r arweinydd Llafur newydd aros yn y swydd yn hir.
“Hwyrach bod rhai pobl o fewn y blaid yn dweud bod unrhyw beth yn well na Llafur Newydd … ac mi roedd ‘na amser blynyddoedd yn ôl pan oedd y blaid Lafur yng Nghymru yn blaid anrhydeddus oedd yn cwffio dros y gwan mewn cymdeithas,” meddai Elfyn Llwyd.
“Tasan nhw’n mynd nôl i’w gwreiddiau fe fyddai hi’n anodd i’r Blaid ymosod arnyn nhw. Ella awn nhw nôl i’w gwreiddiau am ychydig, ond fyddan nhw ddim yno’n hir.”