Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy wedi dweud y bydd ei blaid yn ceisio atal yr ymgyrch am annibyniaeth i Gatalwnia  drwy ddadlau bod torri’n rhydd yn “golygu troi cefn ar Ewrop”.

Mae etholiadau rhanbarthol yn digwydd yng Nghatalwnia ar 27 Medi lle fydd y pleidiau sydd am weld annibyniaeth yn uno gyda’i gilydd er mwyn creu mandad i wthio eu hagenda ymlaen.

Colli hawliau Ewrop

Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Sbaen yn dadlau y bydd pobl Catalwnia yn “colli’r hawliau sydd ganddynt fel dinasyddion Ewrop a Sbaen”.

Mae awdurdodau Sbaen a’r Undeb Ewropeaidd wedi cadarnhau y bydd yn rhaid i Gatalwnia ail-ymgeisio i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd os bydd yn ennill annibyniaeth.

Mae’r rhai sydd o blaid annibyniaeth wedi dweud y byddai ennill yr etholiad ar 27 Medi yn dechrau ‘llwybr i annibyniaeth’ a fydd yn para hyd at 18 mis.

Er hyn, mae Prif Weinidog Sbaen wedi mynnu bod annibyniaeth i Gatalwnia yn anghyfansoddiadol ac na fyddai’n cael ei chaniatáu.

Mae sylwadau Mariano Rajoy yn dod ar ôl i 2 filiwn o bobl orymdeithio ar strydoedd Barcelona ddydd Gwener yn galw am annibyniaeth.