Bydd cynlluniau i dynhau’r mesur dros weithredu diwydiannol yr undebau yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw.

Dyma’r tro cyntaf i Aelodau Seneddol gael y cyfle i drafod y mesur, a bydd ailddarlleniad o’r Mesur Undebau Llafur yn cael ei gynnal yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Mae Llywodraeth Prydain wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r trafodaethau er gwaetha’r ymateb chwyrn yn ei erbyn a’r rhybuddion dros weithredu diwydiannol.

‘Rhoi terfyn ar y bygythiadau’

Mae’r newidiadau yn cynnwys cyflwyno trothwy pleidleisio uwch o 50%, tynhau’r rheolaeth dros bicedu a rheoli sut y caiff tanysgrifiadau i Undebau eu casglu.

Bydd hyn yn “rhoi terfyn” ar y bygythiadau dros weithredu diwydiannol sy’n wynebu “y bobol sy’n gweithio’n galed”, yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid.